Cymorth sy’n addas i chi
Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a digidol i unigolion sy’n chwilio am waith neu’n ystyried datblygu eu sgiliau.
I Geiswyr Gwaith – Rydym yn cynnig cymorth un i un a gwasanaeth mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn lleol a chyfleoedd gwirfoddoli. Manteisiwch ar gymorth gan o clwbiau swyddi yng Nghaerdydd.
I Gyflogwyr – Rydyn ni’n cydweithio â chyflogwyr sy’n chwilio am gyflogeion, lleoliadau i gynnal cyfweliadau a hyfforddiant yn gyfnewid am sicrhau lleoliad i gynnal cyfweliadau.
Newydd adael yr ysgol a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf?
Gallwn ni eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf – boed yn dychwelyd i addysg, neu’n mynd i gyflogaeth neu hyfforddiant drwy ein Cymorth Mentor 16-24 Oed.
Hyfforddiant a Digwyddiadau
Academi Gofalwyr Caerdydd
Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol? Gallwch wneud gwahaniaeth, dechreuwch eich gyrfa fel Gweithiwr Gofal heddiw.
Ceiswyr gwaith
Ydych chi’n chwilio am waith? Gall ein Tîm i Mewn i Waith eich helpu. Cewch fanylion ein lleoliad neu sut i gysylltu â ni.
Cyflogwyr
Os ydych yn ystyried penodi staff, gallwn ni eich helpu! Cysylltwch â’n Tîm Cyswllt Cyflogaeth.
Partneriaid
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi. Dysgwch fwy am wasanaethau ychwanegol yma.
Rydym yn cysylltu pobl, sgiliau a swyddi
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant sgiliau gwaith undydd am ddim gyda thystysgrifau, gan gynnwys gwaith codi a chario, hylendid bwyd, cymorth cyntaf, manwerthu a mwy…
Dewch o hyd i’r gwasanaethau cywir i chi
Dywedodd Carol Chick a oedd yn chwilio am swydd…
” Des i’r hyb a chynigion nhw wybodaeth a chyngor i mi ar beth allwn ni ei wneud nesaf…gwybodaeth fyddech chi byth yn meddwl sydd ar gael. Roedd y gwasanaeth I Mewn I Waith yno i roi gwybodaeth gam wrth gam i mi ac i drefnu cyfweliadau i mi yn ogystal ag edrych ar gyrsiau hyfforddi am ddim y gallwn i fynd arnynt a helpodd fi i gael swydd. “