
Swyddi ar gael nawr
Gallwch ddechrau eich gyrfa ar unwaith a newid bywydau pobl er gwell.
Gwersi gyrru am ddim
Mae gennym arian i’ch helpu i gwblhau gwersi gyrru.
Gwiriad GDG am ddim
Gallwn dalu am eich cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol? Gallwch wneud gwahaniaeth, dechreuwch eich gyrfa fel Gweithiwr Gofal heddiw.
Fel Gweithiwr Gofal, byddwch yn:
- newid bywydau pobl er gwell
- defnyddio eich sgiliau a’ch profiad i helpu pobl eraill i fyw’n annibynnol
- derbyn hyfforddiant a chymorth personol
- cael eich cefnogi i ddod o hyd i’r rôl gywir i chi
Mae nifer o swyddi gwag ar gael ar draws nifer o rolau gofalu


Gofal Preswyl
Cefnogi pobl mewn cartref gofal yn hytrach nag yn eu cartref eu hunain neu gartref teuluol.


Gofal Cartref
Darparu gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw yn eu cartref eu hunain.


Cyfleoedd Canolfan Ddydd
Darparu ystod o gymorth i oedolion sy’n byw gyda Dementia mewn lleoliad Canolfan Ddydd.
Mae Gwaith Gofal yn rhoi profiad i chi o weithio gyda phobl sydd angen eich help, megis:
- plant a phobl ifanc
- pobl hŷn
- pobl ag anabledd dysgu
- pobl ag anabledd corfforol
- pobl â phroblemau iechyd meddwl, neu
- unigolion sydd angen cymorth oherwydd eu bod yn camddefnyddio sylweddau.
Pa hyfforddiant a chymorth fyddwch chi’n eu cael?
- Deall rolau gofal gwahanol
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddementia
- Diogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sgiliau cyflogadwyedd megis Sgiliau magu hyder, gwaith tîm a chyfathrebu
- Diogelwch Bwyd yn y maes Arlwyo Lefel 2
Mae gennym dîm o fentoriaid a hyfforddwyr ymroddedig a allai eich helpu.
Camwch ymlaen tuag at eich gyrfa mewn gofal
Cysylltwch â ni a dechreuwch eich gyrfa fel Gweithiwr Gofal drwy ffonio 029 2087 1071 neu e-bostio AcademiGofalCaerdydd@caerdydd.gov.uk

