Cyflogaeth â Chymorth Lleol

Mae ein Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Lleol yn cefnogi oedolion awtistig ac oedolion ag anableddau dysgu (neu’r ddau) i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy

Y cymorth y byddwch yn ei dderbyn:

  • Mentor cyflogaeth pwrpasol.
  • Help i nodi’r math o waith rydych chi am ei wneud a sut i gael gafael arno.
  • Eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau gwaith a phrofiad gwaith
  • Mynediad at hyfforddiant a datblygu.
  • Bydd yn gweithio gyda’ch cyflogwr, i weld sut y gall eich cefnogi yn ystod y broses recriwtio a phan fyddwch yn y gweithle i wneud y gyflogaeth yn gynaliadwy.
  • Helpu gyda phryderon ariannol ynghylch dechrau gwaith a chyfrifiadau ‘gwell ei fyd’.
  • Eich cefnogi wrth i chi ddysgu, drwy hyfforddiant rheolaidd yn y gwaith, cefnogaeth gan rywun yn y gweithle a/neu adolygiadau rheolaidd.

Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod:

  • Yn 16 oed neu’n hŷn
  • Yn byw yng Nghaerdydd
  • Ddim mewn gwaith cyflogedig nac addysg amser llawn
  • Ddim ar raglen gyflogaeth arall a ddarperir gan adran o’r llywodraeth, ymddiriedolaeth elusennol, neu drydydd parti.
Photo of three participants onsite
Participant doing gardening work outside
Photo of participants in a warehouse using a forlift

Cysylltwch â ni: 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner sy’n helpu i sicrhau lleoliadau gwirfoddoli, yn rhoi gwybodaeth a chymorth cyflogadwyedd. Cymerwch olwg ar ein tudalen partneriaid i ddysgu mwy.

Os oes angen unrhyw gymorth arall arnoch ynghylch gwirfoddoli, gwybodaeth a chymorth, gallech gysylltu ag un o’r sefydliadau eraill sy’n gweithio yng Nghaerdydd:

Top