Cyflogwyr

Mae’r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi cymorth recriwtio am ddim i gyflogwyr yng Nghaerdydd.

Mae ein swyddogion Cyswllt Cyflogwyr yn brofiadol wrth weithio gyda busnesau, o rai cenedlaethol i rai lleol, er mwyn dod o hyd i ymgeiswyr o safon ar gyfer eich swyddi gwag. Ar gyfer mentrau busnes micro, bach a chanolig (BMBaChau), gall y tîm gefnogi’r broses gyflogi ac ysgafnhau llawer ar y baich gwaith o ganfod yr ymgeiswyr cywir.

Rydym yn cynnig y pecyn cymorth rhad ac am ddim canlynol:

  • Mentora a hyfforddiant cyn-gyflogadwyedd ar gyfer llwybrau i rolau/sectorau
  • Didoli CV a sgrinio cyn asesu i fanylebau rôl
  • Cynghori a chefnogi BMBaChau yn y broses ddethol
  • Hyrwyddo swyddi gwag ar draws rhwydweithiau partner helaeth, sianeli cyfryngau cymdeithasol sefydledig a safleoedd sy’n denu niferoedd mawr ledled y ddinas
  • Cyfleusterau cyfweld, asesu a digwyddiadau recriwtio am ddim mewn dros 30 o leoliadau gwahanol ar draws y ddinas
  • Presenoldeb am ddim yn ein ffeiriau swyddi hynod lwyddiannus ledled y ddinas

Yn ogystal, gall y tîm helpu i gael cymorth ariannol yn y gwaith ar gyfer ymgeiswyr y Gwasanaeth i Mewn i Waith sy’n cynnwys costau hyfforddi, costau teithio, gofal plant, a dillad gwaith.

Arwyddlun Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith

Ffoniwch neu e-bostiwch ni i drafod eich anghenion

02920 871 071
cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk

Top